Children's Festival of Welsh History 2016

Awduron ifanc Cymru yn cyflwyno’r Chwyldro Diwydiannol i genedlaethau o blant. Mehefin 2 2017

Heddiw, yn Eisteddfod yr Urdd Penybont ar Ogwr, Taf ac Elai, mewn partneriaeth â’r Urdd; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Llenyddiaeth Cymru; Theatr Genedlaethol Cymru a Cadw, rydym yn falch cyhoeddi y bydd 12 o awduron ifanc yn ymgymryd â’r her o ysgrifennu dramâu byrion i blant ar gyfer cael eu llwyfannu fel rhan o Ŵyl Hanes Cymru i Blant 2018.

Ym mis Medi 2018, bwriad Gŵyl Hanes Cymru i Blant fydd cyflwyno cyfres o 12 sioe i blant yn seiliedig ar hanes y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru – o waith copr Mynydd Parys yn Amlwch i weithfeydd llechi, glo, tin, gwlân, a’r gwaith haearn ym Mlaenafon. Yn rhan o’r cynllun byddwn yn canolbwyntio ar gyfraniad unigolion blaenllaw fel David Davies Llandinam, sy’n dathlu 200 mlwyddiant ers ei eni yn 2018, ynghyd ag ymchwilio i themâu tlodi a phrotest y cyfnod wnaeth amlygu unigolion fel Dic Penderyn.

Yn unol ag arfer yr ŵyl, byddwn yn llwyfannu’r sioeau mewn lleoliadau treftadaeth sy’n berthnasol i’r cymeriad, y stori a’r diwydiant dan sylw, ac yn cydweithio’n agos â chyrff treftadaeth megis Cadw ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Bydd yr awduron ifanc yn derbyn hyfforddiant arbenigol, yn y misoedd nesaf, dan ofal partneriaid y cynllun. Bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant ymchwil i bwnc hanesyddol dan ofal y Llyfrgell Genedlaethol; cwrs preswyl ‘Ysgrifennu i blant’ yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd dan ofal Llenyddiaeth Cymru, a diwrnod o drafod sgriptiau a throi’r stori’n ddrama, yn Y Llwyfan, Caerfyrddin, dan ofal Theatr Genedlaethol Cymru.

Bydd y sgriptiau yn cael eu cyflwyno ar ddiwedd y flwyddyn.

Yn ôl yr hanesydd Dr Elin Jones, sy’n ymgynghorydd ar y prosiect ar ran Gŵyl Hanes Cymru i Blant:

“Cymru oedd y wlad ddiwydiannol gyntaf yn y byd. Ond sut ddigwyddodd hynny mewn gwlad fach dlawd? Mae hanes unigolion mentrus a lliwgar fel Thomas Williams o Sir Fôn, David Davies o Landinam a Amy Dillwyn o Abertawe yn rhan o’r ateb. Mae hanes protestwyr fel Dic Penderyn o Ferthyr a John Frost o Gasnewydd yn gymorth i ateb cwestiwn arall – beth oedd effaith hyn ar bobl gyffredin y wlad? Bydd cyfle nawr gan awduron ifanc mentrus Cymru i chwilio am atebion i’r cwestiynau hyn – a rhagor, rwy’n siwr. Ac yna caiff actorion ‘Gŵyl Hanes Cymru i Blant’ gyflwyno’r dramâu byrion i blant Cymru heddiw– a rhoi cyfle iddynt ddysgu a holi rhagor! Dyma gynllun cyffrous a mentrus sy’n dod â’n hanes yn fyw i ni heddiw.”

Yr Awduron

Gwynfor Dafydd

Enillydd Cadair Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint 2016, mae Gwynfor, sy’n wreiddiol o Donyrefail, ar hyn o bryd yn astudio Sbaeneg ac Almaeneg ym Mhrifysgol Caergrawnt. Mae’n ysgrifenwr brwd ac mae wedi ennill sawl gwobr ar hyd y blynyddoedd am ei sgriptiau, straeon byrion a’i gerddi rhydd a chaeth.

Iestyn Wyn

Daw Iestyn o Lannerch y Medd, Ynys Môn. Mae’n ymdiddori’n fawr ym myd y theatr ac yn gweithio yn y maes fel Tiwtor Drama ac actor achlysurol. Y llynedd yn Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint, enillodd brif wobr theatr yr Eisteddfod, sef Gwobr Goffa Llew.

Elan Grug Muse

Cafodd Elan ei magu yng nghysgod tomeni llechi Dyffryn Nantlle, ac mae bellach yn fyfyrwraig ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe. Enillodd Elan Gadair Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro 2013, ac ym mis Mai eleni, cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth gyda chyhoeddiadau Barddas. Barddoniaeth a Rhyddiaith yw’r ffurfiau ysgrifennu y mae Elan yn fwyaf cyfarwydd â hwy, ond mae’n cydnabod y bydd y cynllun hwn yn ei galluogi i arbrofi ym myd y ddrama.

Sion Emyr

Actor ifanc yn wreiddiol o Benisarwaun ac sydd bellach yn byw yn Llundain. Bu Sion yn rhan o gast Rownd a Rownd am flynyddoedd cyn penderfynu mynd I astudio drama yn Mountview Academy of Theatre and Arts. Ar hyn o bryd, ma Sion Emyr yn brysur yn teithio ysgolion cynradd Cymru gyda chwmni ‘Mewn Cymeriad’ yn portreadu’r arwr Hedd Wyn.

Sian Elin Williams

Daw Sian Elin o Lanybydder, ger Llanbed. Mae ganddi ddiddordeb mawr yn hanes a chymeriadau ei hardal. Ers ei phlentyndod, trwy gyfleon Urdd Gobaith Cymru a Mudiad y Ffermwyr Ifanc, mae wedi bod yn rhan o nifer fawr o sioeau a dramâu. Mae’n astudio Drama ac Astudiaethau Theatr ym Mhrifysgol Aberystwyth, ond ar hyn o bryd, am gyfnod o flwyddyn, mae’n derbyn hyfforddiant yn y gweithle fel Swyddog Ieuenctid gyda’r Urdd yng Ngheredigion.

Lois Llywelyn Williams

Mae Lois yn fyfyrwraig yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Fel un sydd wedi’i magu ym Morfa Nefyn, mae ganddi ddiddordeb mawr yn y diwydiant morwrol a llechi, ond mae hefyd yn awyddus i ymestyn ei phrofiad a’i gwybodaeth i ardaloedd a diwydiannu eraill yng Nghymru. Enillodd Lois y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Yr Urdd Sir y Fflint 2016.

Mared Roberts

Mae Mared yn fyfyrwraig yn ei blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio Sbaeneg a Ffrangeg. Daw yn wreiddiol o Landysul yng Ngheredigion, ac mae’n gyfarwydd ag ennill yn gyson yn yr adran lenyddiaeth mewn Eisteddfodau lleol, ynghyd ag ennill y Goron ddwy waith yn olynol yn yr Eisteddfod Ryng-golegol.

Mirain Alaw Jones

Dilynodd Mirain, sy’n wreiddiol o gyrion Llanelli, fodiwlau sgriptio a Llenyddiaeth Plant fel rhan o’i gradd Dosbarth Cyntaf yn y Gymraeg o Brifysgol Caerdydd. Yn 2016, cafodd ei dewis yn un o 5 awdur ifanc i ysgrifennu drama i gwmni Theatr y Frân Wen, a llwyfanwyd ei gwaith mewn noson Sgript i Lwyfan yn Galeri.

Mari Elen Jones

Daw Mari Elen Jones o Gwm y Glo yng Ngwynedd. Mae wedi ysgriennu nifer o sgriptiau, ac nid yw’n ddiethr i’r profiad o weld ei gwaith yn cael ei berfformio. Bu’n rhan o gynlluniau Sgript i Lwyfan (Frân Wen); Neonsparz (Neontopia); Protest Fudur a Noson Cynhesu’r Tebot (Cwmni Tebot). Nid yw Mari erioed wedi sgriptio ar gyfer plant, ac fel mam ifanc mae’n edrych ymlaen at y cyfle i greu darn o waith y bydd ei phlentyn yn gallu’i fwynhau.

Ceris Mair James

Mae Ceris, a ddaw’n wreiddiol o Gastell Newydd Emlyn, yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Gyfun y Strade. Derbyniodd radd Dosbarth Cyntaf yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor, ac mae’n cystadlu ac ennill yn gyson yng nghystadlaethau llenyddol Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc. Ym mis Hydref 2016 cyhoeddodd ei llyfr cyntaf i blant trwy Wasg Gomer – Nefoedd yr Adar.

Mared Llywelyn Williams

Astudiodd Mared, sy’n byw ym Mhwllhei, fodiwl Theatr Mewn Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth, a sbardunodd hynny ei diddordeb yn y maes. Mae Mared yn un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Tebot – cwmni amateur sy’n dod ag unigolion ynghyd sydd â diddordeb ym maes sgwennu, actio a chyfarwyddo. Teimlai Mared a’i ffrindiau fod cymaint o gwmniau drama amateur wedi diflannu o’u hardal, ac felly roedd yn bryd iddyn nhw greu rhywbeth eu hunain. Mared yw prif ddramodydd Eisteddfod Penybont, Taf ac Elai 2017.

Arddun Rhiannon Arwel

Daw Arddun o bentre’ Dinas yng Nghaernarfon, ac mae newydd orffen ei hail flwyddyn yn Adran Gymraeg Prifysgol Bangor. Llynedd, cafodd gyfle i fod yn rhan o gynllun ‘Cer i Greu’ BBC Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru a oedd yn golygu ysgrifennu drama fer ar gyfer radio. Arweiniodd y broses at wahoddiad i Galeri, Caernarfon i glywed ei gwaith yn cael ei drafod a’i ddehongli gan actorion a chyfarwyddwyr profiadol. Daeth Arddun yn ail yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama eleni yn Eisteddfod yr Urdd Penybont, Taf ac Elai.

Manylion yr hyfforddiant

Gorffenanf 27ain - Chwilota

Lleoliad -Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Pa le gwell i ddwyn ysbrydoliaeth nag ymysg deunyddiau gwreiddiol Trysorfa’r Genedl. Mae casgliad estynedig y Llyfrgell yn borth I’r gorffennol, ond ble mae cychwyn! Dyma gyfle i ddysgu am yr amryw gasgliadau, a derbyn hyfforddiant ar sut i’w hymchwilio. Bydd arbenigwyr wrth law i gyfeirio at y ffynonellau, gan gynnwys yr adnodau digidol a mynediad ar-lein.

Medi 9-10 - Ysgrifennu i Blant gydag Anni Llŷn

Lleoliad – Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy
Nid yw ysgrifennu i blant mor hawdd ag mae’n swnio. Mae’n rhaid dewis a dethol eich cynnwys yn ofalus, rhaid strwythuro’n effeithiol ac mae’n rhaid bod yn ddyfeisgar. Dyma’r pethau fyddwn ni yn eu taclo yn y gweithdy tra’n cael hwyl yn arbrofi gyda thactegau i ddiddanu, ysbrydoli a dal dychymyg plant.

Hydref 14 - Troi’r stori’n ddrama

Lleoliad – Y Llwyfan, Caerfyrddin
Croesewir pawb i gartref Theatr Genedlaethol Cymru yn Y Llwyfan yng Nghaerfyrddin ar gyfer diwrnod o drafod sgriptiau a throi’r stori’n ddrama. Mewn cyfres o weithdai, bydd cyfarwyddwyr theatr profiadol yn ysbrydoli awduron i greu sgriptiau theatrig cyffrous.

Am fanylion pellach, cysylltwch ag Eleri Twynog, Cyfarwyddwr Gŵyl Hanes Cymru i Blant:
eleritwynog@btinternet.com
07891 383392
www.gwylhanes.cymru
Twitter @gwylhanesfest