





Croeso i wefan Gŵyl Hanes Cymru i Blant. Diolch o galon i bob ysgol yng Nghymru sydd wedi cymryd rhan ac i'r holl bartneriaid a gefnogodd gŵyl 2021. O frwydrau'r Celtiaid i gelf Kyffin, ac o fyd y Tywysogion i stori Tryweryn, rydym yn falch bod:
-
Dros 150 o ysgolion wedi derbyn gweithdy rhithiol
-
Mwy na 350 awr o ffilmiau byrion a sgyrsiau wedi'u ffrydio i ysgolion
-
Hyd at 20,000 o blant a phobol ifanc Cymru wedi dathlu hanes Cymru
Edrychwn ymlaen i'ch croesawu i ŵyl 2022 - mae gwahoddiad cynnes i bob ysgol yng Nghymru gymryd rhan.


DEWCH I DDATHLU!
Dewch i gyd-ganu efo un o arwyr Cymru, Llywelyn Ein Llyw Olaf! Mae dros 20 fideo i'w gael ar ein sianel YouTube, felly ewch ati i danysgrifio a mwynhau gwledd o hanes.
AMDANOM
Bwriad yr ŵyl yw i greu brwdfrydedd, ymhlith plant yn bennaf, am hanes Cymru , gan estyn cyfleoedd unigryw i ddysgu mwy am gymeriadau a straeon difyr o’r gorffennol; darganfod safleoedd o bwys hanesyddol, a dathlu hanes a threftadaeth cyfoethog Cymru.
Mwy...

DYSGU

Gŵyl am Gymry’r gorffennol - i ddidanu ac ysbrydoli Cymry bach y dyfodol
DARGANFOD

Celtiaid; Rhufeiniaid; Tywysogion; Rhyfel a Heddwch; 60au; Protest a Therfysg; Hanes Celf; Diwydiant; Arwyr …pa bynnag thema fyddwch chi’n astudio yn ystod tymor yr Hydref, fydd gan yr ŵyl rhywbeth i chi!
DATHLU

Cofrestrwch eich diddordeb mewn unrhyw un o’r sesiynnau sydd ar gael, a byddwn mewn cysylltiad i drefnu amser a dyddiad. Mae pob sesiwn AM DDIM!

Dydd Llun 13eg Medi - Dydd Gwener 22ain Hydref