






GWEITHGAREDDAU
RHITHIOL

Gweithdai Rhithiol Amgueddfa Cymru
Mae’r ŵyl hanes yn digwydd i fis Medi tan hanner tymor yr Hydref bob blwyddyn. Bydd rhaglen Gŵyl Hanes Cymru i Blant 2023 yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf. Cofrestwch i sirhau eich bod yn derbyn gwybodaeth mewn da bryd.
AMSER GOLCHI
Gweithdy Rhithiol
Sut brofiad oedd gorfod golchi a sychu dillad cyn i ni gael peiriannau golchi a thrydan? Dewch i gwrdd â Marged i ddarganfod sut oedd hi’n golchi dillad ers talwm. Byddwch yn ei gwylio’n defnyddio’r twb golchi, y bwrdd sgwrio a’r mangl, yna’n cael cyfle i drin a thrafod efo’n hwylusydd, yn ogystal â gweld rhai o’r gwrthrychau’n agos. Tybed beth wnewch chi ddarganfod sydd wedi newid a beth sydd wedi aros yr un peth?
Addas ar gyfer oedran 5-8


CELTIAID
Gweithdy Rhithiol
Sut brofiad oedd byw yng Nghymru 2000 o flynyddoedd yn ôl? Ymunwch â'n Celt preswyl am daith rhithwir o amgylch Bryn Eryr, ein tai crwn o'r Oes Haearn. Darganfyddwch pam roedd y tân mor bwysig, pa fwyd oedd yn cael ei fwyta, a sut roedd dillad yn cael eu gwneud. Ond sut ydyn ni'n gwybod cymaint am fywyd yn y gorffennol? Gweithiwch gyda'n hwylusydd i ddarganfod sut i ddatgloi cyfrinachau'r gorffennol a chydweithio i ddatrys dirgelion bedd o'r Oes Haearn.
Addas ar gyfer oedran 8-11


GWERSYLL RHUFEINIG RHITHIOL
Gweithdy Rhithiol
Cymerwch ran mewn cyfres o heriau i ddarganfod mwy am fywyd Milwr Rhufeinig. Dysgwch am y Rhufeiniaid a arferai fyw yng Nghaerllion a darganfod pa sgiliau oedd y Rhufeiniaid yn edrych amdanynt mewn milwr. Byddwch yn dysgu am arfwisg Rufeinig ac yn cael eich profi ar eich sgiliau gorymdeithio. Gallwch hefyd ofyn cwestiynau am fywyd milwr Rhufeinig a rhai o'r gwrthrychau diddorol a adawsant ar eu hôl.
Addas ar gyfer oedran 8-11


DARGANFOD CELF YN AMGUEDDFA GENEDLAETHOL CYMRU
Gweithdy Rhithiol
Gan gyfuno ffilm a hwyluso byw, mae'r gweithdy hwn yn cyflwyno dysgwyr i'r orielau celf gan ganolbwyntio ar gelf ac artistiaid Tirlun Cymru. Bydd disgyblion yn ystyried sut mae tirwedd Cymru wedi ysbrydoli artistiaid. Byddwch yn dadansoddi tirluniau Cymreig, yn cwestiynu tystiolaeth ac yn datblygu geirfa i ddisgrifio ac ymateb i waith celf. Bydd disgyblion hefyd yn cael cyfle i feddwl am dechneg celf, arddull, cyfansoddiad a'r defnydd o olau a lliw.
Addas ar gyfer oedran 8-11


DAW ETO HAUL AR FRYN... BYWYD AR Y FFRYNT CARTREF YN YSTOD YR AIL RYFEL BYD
Gweithdy Rhithiol
Sut oedd bywyd yng Nghymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd? Mae'n 1943, gwyliwch Mary Jones wrth iddi ddanfon llythyr o Swyddfa Bost Blaenwaun at ei ffrind Minnie Owen, perchennog Siop Ddefnyddiau Emlyn Davies yn Dowlais. Drwy’r ffilm fer, cewch ddysgu am y bobl a'r lleoliadau, a darganfod mwy am fywyd pob dydd ar y Ffrynt Cartref. Archwiliwch wrthrychau sy’n gysylltiedig â'r Ail Ryfel Byd gyda'n hwylusydd, darganfod eu hanes a chael eich ysbrydoli i ymchwilio i gyfraniad eich ardal leol at ymdrech y rhyfel.
Addas ar gyfer oedran 8-11


CYFRIFIAD 1851: YMCHWILIAD OES FICTORIA
Gweithdy Rhithiol
Dilynwch ôl troed Mr Rosser o gwmpas ei filltir sgwâr ar ddiwrnod Cyfrifiad 1851 yn Abertawe a chwrdd â phobl o bob lliw a llun. Ymunwch a’n gweithdy byw i archwilio gwrthrychau sy'n gysylltiedig â'r cymeriadau i gael blas ar fywyd dynion a menywod tlawd a chyfoethog y 19eg ganrif.
Addas ar gyfer oedran 8-11


PAN OEDD GLO YN FRENIN
Gweithdy Rhithiol
Archwiliwch hanes cyfoethog glofaol de Cymru drwy ymuno a glöwr sy’n dechrau ei ddiwrnod gwaith yn Big Pit yn 1978. Dysgwch am y cymunedau glofaol, nid dim ond heddiw, ond nol i’r Chwyldro Diwydiannol. Pa effaith gafodd glo ar yr amgylchedd? Sut wnaeth glo ysbrydoli awduron ac arlunwyr? Sut wnaeth y newidiadau mewn technoleg wella bywydau y glowyr a’u gwragedd?
Addas ar gyfer oedran 8-11


Y 1960au
Gweithdy Rhithiol
Sut brofiad oedd byw yng Nghymru yn y 1960au, a beth oedd yn digwydd yn y byd ar y pryd? Dewch i gwrdd â Huw yn Rhif 1, Fron Haul, ar ddiwedd 1969 wrth iddo edrych yn ôl dros ddegawd gyffrous a chythryblus. Bydd Huw yn trafod rhai o straeon newyddion mawr y chwedegau yng Nghymru a’r byd, ac yn sôn am ei brofiad fel person ifanc yn y cyfnod yma. Bydd cyfle wedyn i drin a thrafod gyda hwylusydd, fydd yn dangos pob math o wrthrychau diddorol er mwyn dysgu mwy am fywyd pob dydd yn y cyfnod. Cewch hefyd grwydro o gwmpas y tŷ 1969 yn ddigidol gan ddefnyddio technoleg 360Scan.
Addas ar gyfer oedran 8-11


GWLEDDA A CHAETHWASIAETH YN OES Y RHUFEINIAID
Gweithdy Rhithiol
Mae Rhufeiniaid cyfoethog yn enwog am eu partion! Darganfyddwch y bwyd rhyfedd a bendigedig roedden nhw'n ei fwyta, fel ymennydd y paun a llygod wedi'u stwffio. Dysgwch am fywydau'r caethweision oedd yn cefnogi y bywyd godidog yma. Bydd cyfle i astudio’r casgliadau sydd ynghlwm â’r pwnc yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cyrmu.
Addas ar gyfer oedran 8-11


STREIC!
Gweithdy Rhithiol
Ymunwch â ni ym Methesda, 1901 i ddysgu mwy am hanes Streic Fawr y Penrhyn, y streic hiraf yn hanes Prydain. Cewch glywed stori Leusa, wrth i helyntion colli Pwtan y gath ddangos sut brofiad oedd byw yn y pentref yn ystod cyfnod y streic. Yna, bydd ein hwylusydd yn eich tywys o gwmpas tŷ 1901 yn rhithiol gan ddefnyddio technoleg 360Scan, a bydd cyfle i holi cwestiynau. Cewch hefyd drin a thrafod gwrthrychau a dogfennau o’r cyfnod i ddysgu mwy am pam ddigwyddodd y streic a sut effaith y cafodd hyn ar y gymuned.
Addas ar gyfer oedran 8-11


Gweithdai Rhithiol Llyfrgell Genedlaethol Cymru
LLYFR LLUNIADU ELIZA PUGH
Gweithdy Rhithiol
Gweithdy 45 munud arlein yn bwrw golwg gyffredinol ar gasgliad Llyfrau lluniadu Llyfrgell Genedlaethol Cymru, boed yn frasluniau paratoadol, yn gofnodion personol neu’n gasgliad o syniadau. Bydd y Gwasanaeth Addysg yn canolbwyntio ar LlGC 53 sef llyfr lluniadu Eliza Pugh, merch fyddar 12 oed, gan ffocysu ar ei defnydd hi o gelf fel cyfrwng i gyfathrebu.
Addas ar gyfer CA2


TRYWERYN
Gweithdy Rhithiol
Adrodd hanes boddi Cwm Tryweryn yn ystod y 1960au trwy gasgliadau amrywiol Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd y stori yn cael ei chyflwyno o safbwynt pentrefwyr Capel Celyn yn ogystal â phlant o ardaloedd y slymiau yn ninas Lerpwl. Canolbwynt y gweithdy fydd deunydd o’r archif glyweledol, gan gynnwys ffilm o 1965 sydd wedi dogfennu’r digwyddiadau wrth iddynt gymryd lle, a chyfweliad deledu gyda Martha Roberts, Prifathrawes Ysgol Capel Celyn. Bydd y gweithdy 60 munud yn cael ei gyflwyno arlein via Teams, ac yn cynnwys defnydd o fapiau, ffotograffau, archifau a phapurau newydd o’r cyfnod.
Addasiadau o’r gweithdy ar gyfer pob oed, o CA2 i’r Chweched Dosbarth


KYFFIN
Gweithdy Rhithiol
Cyflwyniad i waith a bywyd yr artist o Sir Fôn, Kyffin Williams, a’i gariad at ucheldiroedd ac arfordiroedd Gogledd Cymru. Bydd y gweithdy 1 awr yn bwrw golwg ar ei yrfa a’i arddull nodadwy, gan gyfeirio at sut y deliodd gyda phroblemau iechyd yn ŵr ifanc. Bydd y sesiwn yn cynnwys deunydd clyweledol o’r arlunydd yn trafod ei gelf, gyda ffilmiau ohono yn paentio ar fynyddoedd Eryri yn ogystal ag yn ei weithdai yn Llanfair Pwllgwyngyll a Llundain. I gydfynd â’r gweithdy bydd cyflenwad o lyfrynnau lliw dwyieithog ar Kyffin Williams yn cael eu hanfon i bob ysgol sy’n cymryd rhan.
Addasiadau yn addas o CA2 hyd at Chweched Dosbarth


Y MABINOGI
Gweithdy Rhithiol
Defnyddio casgliadau amrywiol y Llyfrgell Genedlaethol i olrhain hanes y chwedlau, a thrafod eu poblogrwydd yng Nghymru a thu hwnt. Bydd y gweithdy yn canolbwyntio ar sut y goroesodd y storiau o genhedlaeth i genhedlaeth, a datblygu’n rhan annatod o ddiwylliant Cymreig. Yn y sesiwn 60 munud bydd y disgyblion yn clywed am draddodiad y Cyfarwydd; y cofnodion ysgrifenedig cynharaf (llawysgrifau’r Oesoedd Canol); dylanwad Charlotte Guest; y chwedlau mewn ffurf printiedig; delweddau a gweithiau celf; fersiynau clyweledol (ffilm/teledu/cartwnau).
Mae’r gweithdy wedi ei ddatblygu ar gyfer disgyblion Bl.5-Bl.8.


Gweithdai Rhithiol INTOFILM
Mae'n bosib y bydd rhaid gwneud sesiynnau rhithiol tu hwnt i ardal canolbarth y De, Abertawe, Nedd ac Afan, ac ardal De Ddwyrain Cymru. Ond cysylltwch i drafod ac fe wnawn ein gorau i drefnu yn ôl y galw.
ARCHIF FILM : CYNEFIN
Wyneb yn wyneb neu Arlein
Darperir gweithy rhyngweithiol sy’n rhoi’r cyfle i archwilio cynnwys ar y BFI Player a defnyddio ffilm fel sbardun ar gyfer gwaith ar hanes lleol. Bydd cyfle i ddysgu am draddodiadau a diwylliannau eich Cynefin drwy gymharu delweddau o’r gorffennol gyda’r presennol, ac yna cynllunio ffilm am sut y bydd eich Cynefin yn edrych yn y dyfodol.
30-45 muned
Addas ar gyfer oedran blwyddyn 4/5/6


ARCHIF FFILM : PÊL-DROED
Wyneb yn wyneb neu Arlein
Sesiwn llawn hwyl a rhyngweithiol sy’n defnydddio clipiau o gemau pêl-droed o dros y degawdau ac yn rhoi’r cyfle i ddatblygu sgiliau sylwebu a newyddiaduriaeth chwaraeon.
30-45 muned
Addas ar gyfer oedran blwyddyn 5/6


ARCHIF FILM : GWNEUD FFILM
Wyneb yn wyneb neu Arlein
Sesiwn byr yn cyflwyno’r broses o wneud ffilm er mwyn eich helpu i greu ffilm am unrhyw agwedd neu bwnc o fewn y sesiynau a ddarperir gan y partneriaid eraill fel rhan o’r Ŵyl.
20-30 muned
Addas ar gyfer oedran blwyddyn 5/6


ARCHIF FILM : TRYWERYN
Gweithdy Rhithiol
Sesiwn sy’n cyd-fynd â’r ffilm fer Tryweryn : https://www.intofilm.org/films/19747
ac a fydd yn canolbwyntio ar gyflwyno’r prif elfennau sy’n creu ffilm.
30 muned
Addas ar gyfer oedran 11+



Dydd Llun 12fed Medi - Dydd Gwener 21ain Hydref