






GWEITHGAREDDAU
AR LEOLIAD

Gweithgareddau ar leoliad
Mae modd i ysgolion gael cymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru i dalu am drafnidiaeth i fynd i weld gweithgaredd celfyddydol drwy Cronfa Ewch i Weld. Mae rhagor o fanylion yma.
Thomas Pennant – Y Teithiwr Chwilfrydig
Eleni, rydym yn dathlu 300 mlwyddiant y naturiaethwr o Sir y Fflint, Thomas Pennant. Mewn sioe rhyngweithiol, awyr agored, dyma gyfle i’r plant ddianc o’u sgrîns, i fwynhau a gwerthfawrogi byd natur. Byddant yn dysgu am deithau Thomas Pennant a Moses Griffith; beth yw bio-amrywiaeth? a pam fod adar yn canu?
Dyma gyfle i gyfarfod â Thomas Pennant, a dysgu mwy am y Cymro o Chwitffordd a gafodd gryn ddylanwad ar waith un o wyddonwyr mwya’r byd - Charles Darwin.
Yr Ysgwrn, Trawsfynydd – Medi 14 – Medi 18
Abaty Nedd, Castell Nedd - Medi 21
Castell Fflint - Medi 28
Dyffryn Maes Glas, Treffynnon – Medi 29 – Hydref 2
Hedd Wyn – Pam ein bod yn cofio ?
Dros 100 mlynedd ers marwolaeth a champ Eisteddfodol Y Prifardd Hedd Wyn, dyma gyfle I blant Cymru glywed ei stori drist ond ysbrydoledig.
Gyda’r Rhyfel Byd Cyntaf yn gefnlen, bydd cyfle i’r plant fod yn rhan o’r stori a dysgu am ddyfalbarhad y bardd wrth iddo geisio gwireddu ei freuddwyd o ennill cadair yr Eisteddfod Genedlaethol.
Yr Ysgwrn, Trawsfynydd – Medi 14–18
Addas ar gyfer oedran 7-12
AMGUEDDFA LECHI CYMRU: MARGARET Y METRON
Medi 15, 17, 22, 24
Sut brofiad oedd bod yn yr Ysbyty dros ganrif yn ôl? Beth oedd pobl yn wneud cyn roedd pawb yn gallu mynd i weld y doctor? Ymunwch â ni yn Ysbyty Chwarel Dinorwig i gyfarfod â Margaret y Metron wrth iddi eich tywys drwy’r wardiau a thrafod y datblygiadau arloesol fu mewn gofal iechyd yn yr ardal.
Bydd cyfle hefyd i ddysgu am feddyginiaeth lysieuol, ac i ymarfer sgiliau cymorth cyntaf sylfaenol.
Addas ar gyfer oedran 8-11
AMGUEDDFA WLÂN CYMRU: CWRDD Â JOHNNY LEWIS
Hydref 8-9
Hydref 20, 21, 22, 23
Camwch yn ôl mewn amser a chwrdd â Johnny Lewis, cyn-berchennog Ffatri Cambrian. Drwy daith cymeriad rhyngweithiol, bydd disgyblion yn darganfod hanes y diwydiant gwlân lleol, yn clywed straeon am fywyd yn y felin ac yn gwylio’r peiriannau hanesyddol ar waith wrth i grefftwyr medrus eu rhedeg. Byddant yn dysgu am effaith y diwydiant gwlân ar y gymuned leol. Bydd disgyblion hefyd yn cymryd rhan mewn gweithdy ffeltio gwlyb ymarferol, gan ddefnyddio gwlân i greu eu darn o ffelt unigryw eu hunain.
Gadewch i hanes gwlân Dyffryn Teifi nyddu ei swyn yn y sesiwn unigryw hon.
Addas ar gyfer oedran 5-11
AMGUEDDFA WLÂN CYMRU: TAITH DYWYS A GWEITHDY FFELTIO GWLYB
Medi 24
Darganfyddwch hanes hynod ddiddorol y diwydiant gwlân yng Nghymru drwy daith dywys o amgylch Amgueddfa Wlân Cymru. Bydd disgyblion yn dysgu am fywyd a gwaith mewn melin wlân hanesyddol, yn gwylio’r peiriannau hanesyddol ar waith gan grefftwyr medrus ac yn darganfod sut mae gwlân yn cael ei newid o ddafad i ddefnydd.
Bydd disgyblion hefyd yn cymryd rhan mewn gweithdy ffeltio gwlyb ymarferol gan ddefnyddio ffibrau gwlân i greu eu darn ffelt unigryw eu hunain wrth archwilio priodweddau’r deunydd naturiol hyn.
Gadewch i hanes gwlân Dyffryn Teifi nyddu ei swyn yn y sesiwn unigryw hon.
Addas ar gyfer oedran 5-11
AMGUEDDFA WLÂN CYMRU: CWRDD A GWEITHIWR Y FELIN
Medi 25, 29
Camwch yn ôl mewn amser a chwrdd â Nansi, gweithiwr yn Ffatri Cambrian, a darganfod sut oedd bywyd yn y felin ac i deuluoedd yng nghefn gwlad Cymru. Drwy sesiwn ryngweithiol, bydd disgyblion yn archwilio gweithgareddau diwrnod golchi traddodiadol, gwrthrychau hanesyddol a’r arferion dyddiol oedd yn rhan o fywyd cyn cyfleusterau modern.
Bydd disgyblion hefyd yn mwynhau taith dywys ac yn dysgu am fywyd a gwaith mewn melin wlân hanesyddol, yn gwylio peiriannau hanesyddol yr Amgueddfa ar waith gan grefftwyr medrus ac yn darganfod sut mae gwlân yn cael ei newid o ddafad i ddefnydd.
Addas ar gyfer oedran 5-8
