





AMDANOM NI

PWY YW PWY
Amdanom ni
Bwriad yr ŵyl yw i greu brwdfrydedd, ymhlith plant yn bennaf, am hanes Cymru, gan estyn cyfleoedd unigryw i ddysgu mwy am gymeriadau a straeon difyr o’r gorffennol; darganfod safleoedd o bwys hanesyddol, a dathlu hanes a threftadaeth cyfoethog Cymru.
Cynhaliwyd yr ŵyl gyntaf ym mis Medi 2015 ar ôl i Eleri Twynog, cyn-aelod o Fwrdd yr ŵyl, weld sioe am Harri Tudur yn cael ei pherfformio, i gynulleidfa o blant oed cynradd,yng Nghastell Rhaglan. Roedd yn brofiad gwefreiddiol a blannodd hedyn syniad am ŵyl fyddai’n cael ei gynnal led led y wlad, i ddathlu hanes Cymru.
Mae’r ŵyl yn elusen, a dros gyfnod o 6 wythnos, ym mis Medi a Hydref bob blwyddyn, daw rhai o safleoedd treftadaeth Cymru yn fyw gyda perfformiadau; gweithdai; sgyrsiau ac arddangosfeydd. Yn ogystal â’r digwyddiadau byw, cynhelir nifer o sesiynnau ychwanegol ar lein gan ymestyn apêl a chyrhaeddiad yr ŵyl. Ers y cychwyn, gyda chefnogaeth nifer fawr o bartneriaid, mae’r ŵyl wedi cydlynnu rhai cannoedd o ddigwyddiadau gyda miloedd o blant wedi cymryd rhan.
Bwrdd yr Ŵyl
Rhian Tomos
Daw Rhian yn wreiddiol o ardal Llandecwyn yn Ardudwy. Ers graddio yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, mae hi wedi gwneud amrywiaeth o swyddi gan gynnwys addysgu Ffrangeg a Chymraeg yn y sector uwchradd, golygu llyfrau plant, cyfieithu, marchnata a bellach mae hi'n ddarlithydd Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid yn yr Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Bangor. Ei phrif meysydd diddordeb ymchwil ydy datblygu cyflogadwyedd myfyrwyr yn ogystal ag anawsterau llythrennedd a dyslecsia mewn disgyblion dwyieithog.
Gwyn Ellis
Mae wedi byw yng nghyffiniau Porthmadog erioed ac wedi cyfnod fel athro yn Ysgol Tanycastell, Harlech bu’n bennaeth yn Ysgol Llanystumdwy am dair blynedd ar ddeg. Wedi hynny bu’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor ac yn arwain ar y cyrsiau hyfforddi athrawon israddedig ac ôl-raddedig, a nawr mae’n Swyddog Addysg Archifau Gwynedd yn cefnogi ysgolion y sir i addysgu'r plant am hanes eu cynefin.
Rheon Tomos (Cadeirydd)
Yn wreiddiol o bentref Llanrug yng Ngwynedd mae gwaith Rheon fel cyfrifydd wedi golygu iddo dreulio dros ddeugain mlynedd yn Ne Cymru. Mae yn dad i ddau o feibion, ac yn daid i ddau hefyd, ac wedi treulio oriau lawer yn crwydro safleoedd hanesyddol yng Nghymru. Mae ganddo brofiad helaeth o fod yn ymddiriedolwr, gan gynnwys dros bymtheg mlynedd hefo Urdd Gobaith Cymru, yn ogystal a rolau fel cyfarwyddwr anweithredol yn Estyn/Cymwysterau Cymru/Y Ganolfan Dysgu Cymraeg i Oedolion. Bellach mae yn ymddiriedolwr ym Mhrifysgol Bangor yn ogystal a bod yn aelod o fwrdd Awdurdod Cyllid Cymru.
Nia Downes
Mae Nia, sy’n wreiddiol o bentref Trefor wrth droed yr Eifl, yn Bennaeth ar Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail yn Rhondda Cynon Taf. Dechreuodd ei chariad at hanes yn yr ysgol gynradd ac mae’n angerddol am bwysigrwydd dysgu hanes Cymru i holl blant Cymru.
John Dilwyn Williams
Yn frodor o Lŷn, mae Dilwyn wedi ymgartrefu yn Nyffryn Nantlle ers dros bymtheg mlynedd ar hugain. Graddiodd yn y Gymraeg o Fangor, cyn hyfforddi ymhellach fel archifydd ac fel athro cynradd. Taniwyd ei ddiddordeb mewn hanes lleol pan gafodd ymweld ag Archifdy Caernarfon yn naw oed. Treuliodd ugain mlynedd olaf ei yrfa waith fel Swyddog Addysg efo Gwasanaeth Archifau ac Amgueddfeydd Gwynedd, yn ogystal â bod yn Ymchwilydd Hanes hunangyflogedig. Mae bellach wedi ymddeol ond yn parhau gyda’i ddiddordeb angerddol mewn hanes.
Partneriaid a Noddwyr


Hartsheath
Charitable
Trust






