top of page
illustration_no_clouds.jpg
unnamed.gif
rain.gif
2023_flag.png
cloud_01.gif
rain.gif

Polisi Preifatrwydd

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i Gŵyl Hanes Cymru i Blant

 

Mae’r polisi preifatrwydd yma yn rhoi gwybod i chi pa wybodaeth y mae Gŵyl Hanes Cymru i Blant (Ni) yn ei gasglu amdanoch chi, ar gyfer pa bwrpas, sut rydym yn ei gadw a’i ddefnyddio yn ogystal â sut y gallwch chi sgwrsio efo ni amdano.

 

Amdanom ni

 

Mae Gŵyl Hanes Cymru i Blant yn gwmni di-elw, Rhif 09486158. Rydym wedi’n lleoli yn Underhill House, Llansteffan, Caerfyrddin, SA33 5JG

 

Pa wybodaeth rydym yn ei gasglu? 

 

Mae 'na nifer o ffyrdd y byddem yn casglu gwybodaeth amdanoch:

 

  • Pan rydych yn cysylltu’n uniongyrchol gyda Gŵyl Hanes Cymru i Blant drwy ffôn, e-bost neu mewn unrhyw ffordd arall 

  • Pan rydych yn cymryd rhan mewn prosiect neu weithdy a gynhelir gan Gŵyl Hanes Cymru i Blant

  • Pan rydych yn prynu tocynnau i weld sioe Gŵyl Hanes Cymru i Blant drwy Asiant Archebu Trydydd Parti neu ganolfan arall

  • Pan rydych yn prynu eitem gan Gŵyl Hanes Cymru i Blant drwy ein gwefan neu drwy Werthwr Trydydd Parti 

  • Pan rydych yn archebu digwyddiad neu berfformiad gan Gŵyl Hanes Cymru i Blant

  • Pan rydych yn rhannu adborth efo ni am eich profiad o Gŵyl Hanes Cymru i Blant

  • Pan rydym yn cael gwybodaeth am eich sefydliad gan drydydd partïon (megis Yr Adran Addysg a Sgiliau) sydd yn rhyddhau data i’r parth cyhoeddus.

 

Rydym yn casglu gwybodaeth bersonol a rhoddwyd ganoch, a all gynnwys: enw, cyfeiriad, cod post, e-bost, rhif ffôn ac oedran. 

 

Rydym hefyd yn casglu ac yn creu proffil o’ch dewis ar gyfer mathau o weithgaredd, os ydych yn aelod o gynulleidfa, yn ganolfan, yn sefydliad celfyddydol, os ydych yn mynychu gweithdai, os ydych wedi comisiynu prosiect, neu os ydych yn rhoi nawdd i Gŵyl Hanes Cymru i Blant.

 

Os ydych yn cymryd rhan mewn prosiect gan Gŵyl Hanes Cymru i Blant neu’n mynychu digwyddiad, mae’n bosib y gwnawn ni gasglu data gwerthuso gennych. Eich dewis chi yw cynnwys eich enw neu roi gwybodaeth yn ddienw.

 

Rydym yn defnyddio Google Analytics i ddadansoddi’r defnydd o’n gwefan. Mae Google Analytics yn casglu gwybodaeth am ddefnydd gwefan drwy cwcis. Gallwch weld a rheoli cwcis yn eich porwr. Mae pob porwr yn wahanol felly cymrwch olwg ar ddewislen 'Help' eich porwr i ddysgu sut i newid eich gosodiadau.

 

Sut rydym yn defnyddio’r wybodaeth yma? 

 

Mae datblygu gwell dealltwriaeth o’r bobol sydd yn cydweithio efo ni, sy’n gwylio’n sioeau ac sy’n ein cefnogi drwy archebu ein sioeau yn ein caniatáu i wneud penderfyniadau gwell ynglÅ·n â’n gwaith ac i gyfathrebu mewn ffyrdd mwy effeithlon. 

 

Rydym yn defnyddio eich manylion cyswllt personol i gyfathrebu’n uniongyrchol gyda chi, gan rannu gwybodaeth rydym yn credu bydd o ddiddordeb i chi. Gall hyn, ar brydiau, gynnwys gwybodaeth gan sefydliadau eraill pan rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda nhw. 

 

Rydym yn defnyddio eich adborth o’n gweithgareddau i werthuso’r digwyddiad, asesu safon ac i wella a datblygu Gŵyl Hanes Cymru i Blant.

 

Rydym yn defnyddio data ystadegol o’n platfformau cyfryngau cymdeithasol a Google Analytics i ddilyn effeithlonrwydd ein marchnata a sut caiff ein gwefan ei ddefnyddio.

 

Rydym yn defnyddio gwybodaeth ddienw i greu adroddiadau ar gyfer noddwyr a phartneriaid ac i helpu i ni godi arian ar gyfer dyfodol Gŵyl Hanes Cymru i Blant. Mae hyn yn cynnwys, ond nid yn gyfunedig i, wybodaeth ddaearyddol, oedran ac adroddiadau cymdeithasol ac economaidd.

 

Rydym yn defnyddio gwybodaeth ddienw i greu adroddiadau i fesur effeithlonrwydd ein marchnata ac i geisio deall mwy sut mae pobol yn hoffi archebu ein Gwaith.

 

Rydym yn defnyddio’r wybodaeth a roddir gennych i gyflawni cais a wnaethpwyd gennych, sydd yn gallu cynnwys gyrru gwybodaeth i chi am ein cwmni a’n gwasanaethau.

 

Sut ydym ni’n rhannu eich gwybodaeth?

 

Ni wnawn ni fyth werthu, rhentu neu rannu gwybodaeth bersonol i drydydd bartïon ar gyfer pwrpas marchnata.

 

Buddiannau Cyfreithlon 

 

Mae’r term ‘buddiannau cyfreithlon’ yn bwrpasol i ddiddordebau busnes sydd gennym ni fel sefydliad i gasglu, cadw a phrosesu eich data personol. Nid yw'r rhain yn disodli eich hawliau a diddordebau personol.

 

Mae ein buddiannau cyfreithlon yn cynnwys:

  • Marchnata uniongyrchol i chi, gan sicrhau eich bod yn ymwybodol o gynyrchiadau, gweithgaredd a chyfleoedd Gŵyl Hanes Cymru i Blant a bod y marchnata yn berthnasol i chi.

  • Cynnal perthynas efo chi os ydach yn artist, ganolfan, sefydliad sy’n bartner, un o’n cyfranogwyr, rhoddwr, noddwr, hapddaliwr, cyfryngau, grwpiau cymdeithasol, canolfan addysgu neu fusnes.

 

Tynnu Lluniau

 

Rydym yn tynnu lluniau yn ystod perfformiadau o’n sioeau a’n digwyddiadau i arddangos ein Gwaith, y lleoliadau anhygoel, ein cynulleidfaoedd hyfryd a’n cyfranogwyr!

 

Mae tynnu lluniau yn rhan o’n ‘buddiannau cyfreithlon’ i farchnata ein cwmni a’n gwaith.

 

Dyma’r ffyrdd mwyaf cyffredin yr ydym yn defnyddio ein lluniau: 

• Ar ein gwefan 

• Ar ein Cyfryngau Cymdeithasol

• Yn y Wasg

• Mewn adroddiadau i hapddaliwr a noddwyr

 

Caiff ein lluniau i gyd eu storio yn ein rhwydwaith ddiogel, wedi’i warchod gan gyfrinair. Bydd mynediad i’r lluniau dim ond ar gael i aelodau staff sydd gydag angen busnes cyfreithlon iddynt. Rydym yn defnyddio'r fersiynau diweddaraf o unrhyw feddalwedd neu systemau rhwydwaith er mwyn sicrhau diogelwch ein systemau technolegol. Wedi dweud hynny, ni all unrhyw gwmni na system sicrhau diogelwch llwyr gan fod yna wastad posibilrwydd i rain gael eu heffeithio gan ffactorau allanol.

 

Plant

 

Ein diffiniad o blentyn yw unrhyw un o dan 18 mlwydd oed. 

 

Nid ydym yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol gan blant o dan 18 mlwydd oed wrth archebu digwyddiad neu unrhyw weithgaredd gyda ni.

 

Efallai y byddem yn casglu gwybodaeth gyswllt bersonol gan blentyn os ydynt yn rhan o brosiect neu weithgaredd cyfredol. Bydd caniatâd yn cael ei gasglu gan riant neu ofalwr y plentyn wrth gasglu’r data yma, a byddai’r caniatâd yn cynnwys termau ynglÅ·n â chasglu, cadw a phrosesu’r wybodaeth. Bydd y plentyn hefyd yn cael eglurhad llawn ynglÅ·n â thermau’r caniatâd ac unrhyw wybodaeth ynglÅ·n â defnydd y data. Bydd hyn yn cyd-fynd yn llwyr gyda Pholisi Diogelu Plant Gŵyl Hanes Cymru i Blant.

 

Rydym yn casglu data gwerthuso gan blant sydd yn cymryd rhan yn ein digwyddiadau. Caiff y data ei wneud yn ddienw a’i ddefnyddio i greu adroddiadau ystadegol ac i wella safon ein gweithgareddau. Caiff caniatâd i gasglu’r wybodaeth yma ei sicrhau gan unai’r rhiant/gofalwr neu’r ysgol, wrth ymddwyn ‘in loco parentis’.

 

Sut caiff fy ngwybodaeth ei storio?

Caiff eich gwybodaeth bersonol ei storio ar ein rhwydwaith ddiogel, sydd wedi’i warchod gan gyfrinair. Bydd mynediad i’r wybodaeth dim ond ar gael i aelodau staff sydd gydag angen busnes cyfreithlon iddo. Rydym yn defnyddio'r fersiynau diweddaraf o unrhyw feddalwedd neu systemau rhwydwaith er mwyn sicrhau diogelwch ein systemau technolegol. Wedi dweud hynny, ni all unrhyw gwmni na system sicrhau diogelwch llwyr gan fod yna wastad posibilrwydd i rain gael eu heffeithio gan ffactorau allanol..

 

Am ba mor hir bydd fy nata yn cael ei storio?

Byddem yn cadw eich data personol am gyn hired â’i fod yn berthnasol ac yn addas i wneud hynny ar gyfer ein defnydd busnes cyfreithlon fel caiff ei nodi uwchlaw. Credwn ei fod yn rhesymol i gysylltu efo tanysgrifwyr bob pum mlynedd, i rannu ein polisi preifatrwydd gyda nhw, fel gall unigolion ail-werthuso sut a pham mae eu data yn cael ei gadw gennym ni.

 

Beth yw fy opsiynau? Pa hawliau sydd gen i gael mynediad i, newid neu gwaredu eich gwybodaeth?

Ni does rhaid i chi roi eich gwybodaeth gyswllt bersonol i ni, ond ystyriwch y gall hyn ei wneud yn anoddach i ni sicrhau ein gwasanaeth i chi ar brydiau.

 

Nid oes rhaid i chi roi unrhyw ddata gwerthuso i ni. Os ydych yn dymuno gwneud, fe allwch chi ei roi yn ddienw.

 

Mae gennych hawl i fynnu copi o’r wybodaeth rydym wedi ei gasglu gennych. Yn ychwanegol, mae gennych hawl i wirio neu ddileu unrhyw wybodaeth bersonol wallus.

 

Mae gennych hawl i gael gwared â’ch gwybodaeth bersonol gan ‘optio allan’, neu ymeithrio, unrhyw bryd, drwy glicio ar linc dileu tanysgrifiad ar waelod e-byst marchnata neu drwy gysylltu efo ni mewn unrhyw un o’r ffyrdd canlynol:

E-bostio: gwyb@gwylhanes.cymru

Ffonio: 0789 138 3392 neu

Ysgrifennu: Gŵyl Hanes Cymru i Blant, Underhill House, Llansteffan, Caerfyrddin, SA33 5JG

 

Rydym yn croesawu unrhyw newidiadau yr hoffech eu hawgrymu. Mae’n ddyletswydd arnom i gadw unrhyw ddata rydym yn ei gasglu mor gywir ac sydd yn rhesymol bosib ac yn unol â chanllawiau RhGDC (GDPR).

Ewch i www.ico.org.uk er mwyn darganfod mwy am eich hawliau unigol.

 

Newid mewn Polisi 

 

Mae’n bosib y byddem yn newid y Polisi Preifatrwydd yma o’i bryd i’w gilydd. Os ydym yn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol am y ffordd rydym yn trin eich gwybodaeth bersonol, fe wnawn ni ddatgan hyn yn glir ar wefan Gŵyl Hanes Cymru i Blant.

 

Sut y gallaf gwyno? 

 

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu os hoffech wneud cwyn am ein defnydd o’ch data personol, gallwch gysylltu efo ni ar 0789 138 3392 neu gwyb@gwylhanes.cymru

​

Gallwch hefyd gysylltu efo Swyddfa Gymraeg yr Information Commissioner ar www.ico.org.uk neu 0330 414 6421. Maent yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

CYSYLLTU
logo_cym-01.png

Dydd Llun 4ydd Medi - Dydd Gwener 27ain Hydref

bottom of page