GWEITHGAREDDAU
SGYRSIAU
Bydd holl sgyrsiau'r ŵyl ar gael o Fedi 9fed - Hydref 25ain
Mae’r ŵyl hanes yn digwydd o fis Medi tan hanner tymor yr Hydref bob blwyddyn. Bydd rhaglen Gŵyl Hanes Cymru i Blant 2024 yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf. Cofrestwch i sirhau eich bod yn derbyn gwybodaeth mewn da bryd.
​
PEDR AP LLWYD YN HOLI YR ESGOB WILLIAM MORGAN
Beth yw’r llyfr pwysicaf erioed i’w gyhoeddi yn y Gymraeg? A sut deimlad yw gwybod fod eich gwaith wedi cael effaith anferthol ar yr iaith Gymraeg? Ymunwch â Pedr ap Llwyd, Prif Lyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru wrth iddo sgwrsio gyda’r Esgob William Morgan, y dyn a gyfieithiodd Y Beibl yn gyflawn i’r Gymraeg am y tro cyntaf, nôl yn 1588.
​
Addas ar gyfer blynyddoedd 3 - 6
​
Cefnogwyd gan: Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Mewn Cymeriad
GWENHWYFAR AG ARTHUR
Ffilm llawn hwyl a chomedi fydd yn cael ei ddarlledu ar S4C dros gyfnod y Nadolig eleni sy’n dilyn hynt a helynt y Brenin Arthur a Gwenhwyfar. Mae’r ffilm yn dechrau gyda Gwenhwyfar ar dân eisiau lle fel marchog ar Ford Gron y Brenin Arthur ond mae yna un broblem, dim ond dynion sy’n cael cystadlu am le. Mae Gwenhwyfar yn ferch benderfynol iawn, ac mae’n perswadio ei morwyn Morwenna i ymuno á hi mewn cystadleuaeth lle mae marchogion yn trio profi eu dewrder a’u doethineb i Arthur... Ymunwch â Gwenhwyfawr ag Arthur, mewn sgwrs sydd wedi’i recordio yn arbennig ar gyfer Gŵyl Hanes Cymru i Blant, am flas o’r hyn sydd i ddod y Nadolig hwn.
​
Cefnogwyd gan: Boom Plant
ANNI LLŶN YN HOLI HEDD WYN
Bardd yn holi bardd. Ymunwch efo Anni LlÅ·n, cyn-Fardd Plant Cymru wrth iddi hi sgwrsio efo’r Prifardd Hedd Wyn, a bu farw yn Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cyn iddo ddarganfod fod o wedi gwireddu ei freuddwyd o ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol.
​
Addas ar gyfer blynyddoedd 3 - 6
​
Cefnogwyd gan: Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Mewn Cymeriad
JENNIFER JONES YN HOLI SYR IFAN AB OWEN EDWARDS
Sefydlwyd Urdd Gobaith Cymru gan Syr Ifan ab Owen Edwards ym 1922. Ers hynny mae dros 4 miliwn o blant a phobol ifanc wedi bod yn aelodau o’r Urdd, ac wedi elwa o brofiadau chwaraeon, celfyddydol, preswyl, dyngarol, gwirfoddol a phrentisiaethau, i gyd oll drwy gyfrwng y Gymraeg. A hithau bron yn gan mlynedd yn ddiweddarach, ymunwch â Jennifer Jones, Gohebydd newyddion BBC Wales a Chyflwynydd BBC Radio Cymru wrth iddi holi’r dyn tu ôl i un o sefydliadau ieuenctid mwyaf Ewrop. Bydd Syr Ifan ab Owen Edwards yn teithio ysgolion ledled Cymru mewn ‘sioe-un-person’ Mewn Cymeriad, sy’n cychwyn mis Ionawr 2022.
​
Addas ar gyfer blynyddoedd 3 - 6
​
Cefnogwyd gan: Urdd Gobaith Cymru a Mewn Cymeriad
Gyda diolch i'n holl gefnogwyr wnaeth gydweithio â ni i greu'r sgyrsiau yma:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Boom Plant; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Mewn Cymeriad; Urdd Gobaith Cymru
Dydd Llun 9fed Medi - Dydd Gwener 25ain Hydref