top of page

Y 1960au
Ar gael o 13eg Fedi - 22ain Hydref
Gweithdy Rhithiol
Sut brofiad oedd byw yng Nghymru yn y 1960au, a beth oedd yn digwydd yn y byd ar y pryd? Dewch i gwrdd a Huw yn Rhif 1, Fron Haul, ar ddiwedd 1969 wrth iddo edrych yn ôl dros ddegawdd gyffrous a chythryblus. Bydd Huw yn trafod rhai o straeon newyddion mawr y chwedegau yng Nghymru a’r byd, ac yn sôn am ei brofiad fel person ifanc yn y cyfnod yma. Bydd cyfle wedyn i drin a thrafod gyda hwylusydd, fydd yn dangos pob math o wrthrychau diddorol er mwyn dysgu mwy am fywyd pob dydd yn y cyfnod. Cewch hefyd grwydro o gwmpas y tŷ 1969 yn ddigidol gan ddefnyddio technoleg 360Scan.
Addas ar gyfer CA2
Cefnodwyd gan:
Amgueddfa Genedlaethol Cymru

bottom of page