top of page

DAW ETO HAUL AR FRYN... BYWYD AR Y FFRYNT CARTREF YN YSTOD YR AIL RYFEL BYD
Ar gael o 13eg Fedi - 22ain Hydref
Gweithdy Rhithiol
Sut oedd bywyd yng Nghymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd? Mae'n 1943, gwyliwch Mary Jones wrth iddi ddanfon llythyr o Swyddfa Bost Blaenwaun at ei ffrind Minnie Owen, perchennog Siop Ddefnyddiau Emlyn Davies yn Dowlais. Drwy’r ffilm fer, cewch ddysgu am y bobl a'r lleoliadau, a darganfod mwy am fywyd pob dydd ar y Ffrynt Cartref. Archwiliwch wrthrychau sy’n cysylltu gyda’r Ail Ryfel Byd gyda'n hwylusydd, darganfod eu hanes a chael eich ysbrydoli i ymchwilio i gyfraniad eich ardal leol at ymdrech y rhyfel.
Addas ar gyfer CA2
Cefnodwyd gan:
Amgueddfa Genedlaethol Cymru

bottom of page